Amdanon ni

Hwb amlasiantaeth ar gyfer dioddefwyr a thystion troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent yw Connect Gwent, boed hyn yn brofiad diweddar neu’n rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac sy’n cael effaith nawr.

Ble ydyn ni?

Rydyn ni wedi’n lleoli yn y Coed-duon, ond rydyn ni’n darparu cefnogaeth i bobl ar draws 5 awdurdod lleol Gwent.

Pwy ydyn ni?

Mae gennym ni weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn cydweithio o ystod o sefydliadau. Rydyn ni’n gweithio gyda llawer o wahanol asiantaethau ar draws Gwent, ond mae’r partneriaid amlasiantaeth sydd yn ein swyddfa isod. Mae’r rhain yn darparu cefnogaeth i:

Oedolion

Age Cymru Gwent
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
New Pathways
Umbrella Cymru

Pobl Ifanc

Umbrella Cymru

Sut ydyn ni’n gweithio?

Fel gwasanaeth amlasiantaeth, rydyn ni’n cydweithio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y gwasanaeth gorau gennym ni. Dyma ganllaw cam wrth gam yn nodi beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cael mynediad at gymorth gennym ni:

Cam 1 - Cael Atgyfeiriad
Cam 2 - Ceisio Cysylltu
Cam 3 - Trafodaeth Gychwynnol
Cam 4 - Trafodaeth Fewnol
Cam 5 - Darparu Cymorth
Cam 6 - Dod â’r Cymorth i Ben
Cam 7 - Arolwg Boddhad

Cysylltu

Ffôn
E-bost
Atgyfeirio gan Asiantaethau
Rhifau Llinell Gymorth 24/7